Skip to content
Fel rhan o'i fframwaith strategol Digidol 2030 mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo darparwyr ôl-16 yng Nghymru i ddefnyddio'r gwasanaeth mewnwelediad profiad digidol.

Cyhoeddi

Mae arolygon cipolwg profiad digidol Jisc yn rhoi data grymus ar sut mae eich dysgwyr, eich staff addysgu a'ch staff gwasanaethau proffesiynoyn defnyddio technoleg, beth sy’n gwneud gwahaniaeth a lle gellir gwneud yn well. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd bresennol.

Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod yr arolygon yn cyd-fynd â Fframwaith Digidol 2030, gan roi tystiolaeth i chi o’ch cynnydd yn erbyn y Fframwaith.

Adroddiadau o 2021

Cwblhaodd 5,921 o ddysgwyr, 1,181 staff addysgu a 1,051 o staff gwasanaethau proffesiynol o addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion a chymunedol yr arolygon, gan ddarparu tystiolaeth gadarn i fesur cynnydd yn erbyn Digital 2030.

Bydd ein hadroddiadau (wedi'u mapio yn erbyn nodau Digital 2030) a phecynnau gwybodaeth (wedi'u mapio i feysydd gwrthrychol Digital 2030) yn eich helpu i gymharu'ch canfyddiadau sefydliadol â'ch sector. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chi i helpu i nodi a blaenoriaethu unrhyw bwyntiau gweithredu a nodwyd. Cysylltwch â'ch rheolwr cyfrif am ragor o wybodaeth.

Cymru 2021 ffeuthlin

  • Arolygon mewnwelediad profiad digidol Cymru ffeuthlin 2021 - pdf

Arolygon mewnwelediad profiad digidol Cymru 2021: crynodeb addysg bellach

  • Mewnwelediadau profiad digidol Cymru 2021: crynodeb addysg bellach - Word a pdf
  • Wales digital experience insights 2021: further education summary - Word a pdf
  • Further education in Wales: what are our learners, teaching practitioners and professional services staff telling us? - PowerPoint

Arolygon mewnwelediad profiad digidol Cymru 2021: crynodeb dysgu seiliedig ar waith

  • Mewnwelediadau profiad digidol Cymru 2021: crynodeb dysgu yn y gwaith - Word a pdf
  • Wales digital experience insights 2021: work-based learning summary - Word a pdf
  • Work-based learning in Wales: what are our learners, teaching practitioners and professional services staff telling us? - PowerPoint

Arolygon mewnwelediad profiad digidol Cymru 2021: crynodeb ar gyfer dysgu oedolion a chymunedol

  • Mewnwelediadau profiad digidol Cymru 2021: crynodeb ar gyfer dysgu oedolion a chymunedol - Word a pdf
  • Wales digital experience insights 2021: adult and community learning summary - Word a pdf
  • Adult and community learning in Wales: what are our learners, teaching practitioners and professional services staff telling us? - PowerPoint

Digidol 2030: fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol ôl-16 yng Nghymru

Er mwyn cefnogi'r sector addysg ôl-orfodol a hyfforddi, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Digidol 2030 fel fframwaith strategol i egluro ei gweledigaeth, nodau ac amcanion cyffredin ar gyfer dysgu digidol ôl-16 dros y degawd nesaf.

Gallwch ddarllen y fframwaith strategol a'r canllawiau gweithredu'n llawn:

Mae ein canllaw ar-lein Digidol 2030 yn amlinellu nodau ac amcanion fframwaith Digidol 2030 ac yn dangos sut y gall technolegau digidol gynorthwyo cyflenwi effeithiol drwy archwilio amrywiol rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector ôl-16.

Dechrau arni

Beth sydd angen i fy sefydliad ei wneud i gymryd rhan?

Os ydych chi'n ddarparwr addysg bellach yng Nghymru (AB), dysgu oedolion a dysgu yn y gymuned (ACL), neu’n ddarparwr dysgu seiliedig ar waith (WBL), cysylltwch â'ch rheolwr cyfrif neu anfonwch e-bost wales@jisc.ac.uk i roi gwybod i ni eich bod yn dymuno cymryd rhan.

Byddwn wedyn yn eich ffonio i drafod eich opsiynau ac i egluro’r gefnogaeth sydd ar gael i chi.

Pa bryd mae'r arolygon yn agor ac yn cau?

Mae ein harolygon ar gyfer myfyrwyr, staff addysgu a staff gwasanaethau proffesiynol ar gyfer 2020/21 bellach wedi cau, a bydd yr adroddiadau ar gael yn ddiweddarach yn 2021. Bydd arolygon 2021/22 ar agor mis Tachwedd 2021, a byddant yn cau diwedd mis Ebrill / canol mis Mai 2022 (dyddiadau terfynol i'w cadarnhau).

Bydd yr adroddiadau terfynol ar

Gallwn ddarparu arweiniad helaeth ar redeg y gwasanaeth mewnwelediad profiad digidol (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd). Gweler ein tudalennau cyngor ac arweiniad.

Hefyd gallwn ddarparu templedi ar fformat Word y gellir eu golygu i'ch helpu i hyrwyddo'r arolygon i'ch myfyrwyr a'ch staff (fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael). Gallwch lawrlwytho’r rhain o'n tudalen adnoddau.

Nodwch: er mwyn ychwanegu eich logo eich hun, cliciwch ar y lle sydd wedi'i farcio â logo a dewis dileu. Yna gallwch ychwanegu eich logo eich hun a newid ei faint i gyd-fynd, gan ddewis yr opsiwn fformatio/lapio testun 'in front of text' i ganiatáu i chi ei symud i'r lle priodol.

Angen help?

Cysylltwch os oes gennych chi unrhyw ymholiadau: